Ar y Mimosa (Cytgan) Ar y Mimosa Ar y Mimosa Cawn hwylio yn rhydd I'r Gymru a fydd Yn Wladfa ymhell dros y byd Codwn yr hwyliau Tynnwch y rhaffau Ffarwel fo i'n ffrindiau i gyd Daliwn y gwyntoedd Hwyliwn dros foroedd Daeth yn amser i newid ein fyd Llifodd y dagrau I lawr dros ein gruddiau Wrth droi cefn ar hen bwthyn fy nhad Ond yn fy nghalon Mae tanbaidd obeithion Y fydd terfyn ar ormes a brad Ar y Mimosa... Ffarwel i Walia, Y gân a chwedleua A ffarwel fo i Arglwydd y Plas Cadw dy gyflog, Ni raid crafu am geiniog A'r dyfyn y chwarel na ffâs Rhown ein hwynebau I gyfeiriad y golau Cawn fyw yn y Gymru Gymraeg Cloddiwn sylfeini A chasglwn y meini A chodwn ein tŷ ar y graig A chawn ni ryddid A chawn ni wynfyd Gwireddir ein breuddwyd cyn hir Rhown gefn ar y gormes A'r erlid anghynnes Cawn Gymru o'r newydd, fe hawliwn ein tir. Ar y Mimosa...