Kishore Kumar Hits

Dafydd Iwan - Cerddwn Ymlaen lyrics

Artist: Dafydd Iwan

album: Cana Dy Gan Vol 2


Bu'r Cymro yn cerdded y llwybrau cynefin drwy'r oesau,
Yn crafu bywoliaeth ddigysur ar gaenen o dir,
Yn gwarchod ei fywyd wrth warchod y noethlymun erwau,
Wrth ganlyn yr arad a dilyn yr og ar y ffridd.
Dringodd y creigiau a holltodd y llethfaen yn gywrain,
Tiriodd i grombil y ddaear i geibio'r glo,
Gwnaeth gyfoeth i eraill a gwelodd gyfeillion yn gelain,
A chyfoeth 'rhen ffydd a 'rhen eiriau oedd ei gyfoeth o.
Ond Cerddwn Ymlaen, Cerddwn drwy ddwr a than,
Cerddwn a ffydd yn ein can, ymlaen.
A Cherddwn Ymlaen, Cerddwn drwy ddwr a than,
Cerddwn a ffydd yn ein can, ymlaen,
Cerddwn Ymlaen.
Bu farw Llywelyn, Llyw olaf y Cymry'n Nghilmeri,
Saith canrif yn ol ar yr eira diferodd ei waed,
Ar bicell fe gariwyd ei ben ar hyd hewlydd Llundain,
A'r dorf yn crochlefain i ddathlu'r fuddugoliaeth a gaed.
Saith canrif o ormest caethiwed a gafwyd ers hynny,
Saith canrif o frwydro a dioddef dan gyfraith y Sais,
Ond er dichell bob bradwr a chynllwyn pob taeog a chachgi,
Mae'r Cymry ar gerdded a'r bobl yn codi eu llais.

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists