Mewn dwrn o ddur mae'r seren wen Mae cysgod gwn tros Bethlehem Dim angel gwyn yn canu Haleliwia. Codi muriau, cau y pyrth Troi eu cefn ar werth y wyrth Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia. Mae weiran bigog gylch y crud A chraith lle bu creawdwr byd Mae gobaith yno'n wylo ar ei glinia' A ninnau'n euog bob yr un Yn dal ei gôt i wylio'r dyn Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia. Mae'r nos yn ddu mae'r nos yn hir Ond mae na rai sy'n gweld y gwir Yn gwybod fod y neges mwy na geiria' Mai o'r tywyllwch ddaw y wawr A miwsig ddaeth â'r muriau lawr Daw awr i ninnau ganu Haleliwia. Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.