Kishore Kumar Hits

Daniel Lloyd A Mr Pinc - Tan Yn Ty Nain lyrics

Artist: Daniel Lloyd A Mr Pinc

album: Goleuadau Llundain


A glysoch chi am dân?
Ers talwm yn Garth Road
Lle bu nain yn byw a'i nyth o blant
Wrth y pier
Da chi di bod?
Ogla cinio'r Sul
Ym mhob 'stafell lân
Taid yn adrodd hanes wrth y tân
Tân yn nhŷ nain
Tân yn tŷ 89
Tân yn tŷ nain
Hen luniau ar y wal
Yn eu fframiau pren
Taid yn wen o glust i glust
Het fach glas ar ei ben
Teli newydd sbon
Yn y lolfa lân
Dewch i glywed hanes hon
Yn tŷ nain oedd y tân
Tân yn nhŷ nain
Tân yn tŷ 89
Tân yn tŷ nain
Yn y nos
Y fflamau'n dechrau dangos
Fflamau melyn gwyllt yn agos
Tŷ taid a nain
Yn yr oriau mân
Hen ddodrefn cain
Yn tŷ nain
Oedd ar dân
Tân yn nhŷ nain
Tân yn tŷ 89
Tân yn tŷ nain
Doedd neb 'di brifo
Nain 'di achub ni gyd
Tân yn nhŷ nain
Tân yn tŷ 89
Tân yn tŷ nain
'Di diffodd

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists