Kishore Kumar Hits

Bwncath - Dos yn dy Flaen lyrics

Artist: Bwncath

album: Bwncath II


Wyt ti'n cofio braf oedd nosweithiau'r haf
Pan oedda ni yn chwarae yng ngolau'r stryd
Yr blant i'r byd, heb unrhyw gyfrifoldeb
Cyn i lais prysurdeb ddod â'i gŵyn, i dy swyno
A'i hud, i 'neud chdi deimlo'n gaeth, ond yn waeth
A wnaeth i chdi anghofio am dy ffydd
I dorri'n rhydd, rhyw ddydd yn dy ddyfodol
'Di'r amodau sy'n ddelfrydol byth am ddod
Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen
Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen
Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun
Dos yn y nos i weld y sêr
Sy'n treiddio'r asgwrn at y mêr
At yr heddwch sydd yng nghanol pob un
Ar yr heddwch sy'n dy ganol di
Dyro dy sgidia 'mlaen, fel o'r blaen
Dos i weld y dail yng ngola'r haul
Mi glywi'r floedd sy'n galw o'r mynyddoedd
A'r sibrwd sy'n dy ddenu at y môr
Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen
Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen
Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun
Dos yn y nos i weld y sêr
Sy'n treiddio'r asgwrn at y mêr
At yr heddwch sydd yng nghanol pob un
Ar yr heddwch sy'n dy ganol di
A chwilia'r llawr i gasglu pren
Tra mae'r nefoedd uwch dy ben
Cynna dân bach i g'nesu dy hun
Gan gadw'th draed ar y llawr
A dy feddwl ar yn awr
A dy fryd ar un byd yn gytûn
Dos yn dy flaen, yn groes i'r graen
Ti 'di bod ffordd hyn o'r blaen
Drwy y drysau sy'n dy feddwl dy hun
Dos yn y nos i weld y sêr
Sy'n treiddio'r asgwrn at y mêr
At yr heddwch sydd yng nghanol pob un
Ar yr heddwch sy'n dy ganol di

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists