Ella fod y byd yn gwegian Ond mae'r haul yn teimlo'n braf A 'na i gaw'r teimlad yma 'Na i gadw do'i fynd drwy gydol yr haf Ond mae'n anodd gweld y gwanwyn Tra mae'r gaeaf o dy flaen Fel mae dŵr pan yn ddiferyn Yn 'i gweld hi'n anodd hollti maen O' a weli di Mai'r rhai sy'n dal yn awr sy'n dal ni'n ôl Mae'n anodd os ti dal heb 'i weld o O' a gredi di Mai'r rhai sy'n llai sy'n cael eu llais yn ôl Mae'n anodd ond mae'n wir, mor wir Pan y byddi yn mynydda Tydi'r llwybr weithiau'n serth A'r holl bwysau ar dy 'sgwydda' Yn drymach fyth wrth golli nerth Ond mae gobaith yn dy ddwylo Ac mae'th galon yn dy fron Felly dos ymlaen i grwydro A chofia bwyso ar dy ffon O' a weli di Mai'r rhai sy'n dal yn awr sy'n dal ni'n ôl Mae'n anodd os ti dal heb 'i weld o O' a gredi di Mai'r rhai sy'n llai sy'n cael eu llais yn ôl Mae'n anodd ond mae'n wir O' a gredi di Mai'r rhai sy'n dal yn awr sy'n dal ni'n ôl Mae'n anodd os ti dal heb 'i weld o O' a weli di Mai'r rhai sy'n llai sy'n cael eu llais yn ôl Mae'n anodd ond mae'n wir, mor wir Ma'i mor anodd gweld y gwanwyn Tra mae'r gaeaf o dy flaen Fel mae dŵr pan fesul diferyn Bob tro'n llwyddo'i hollti'r maen