Kishore Kumar Hits

Bwncath - Addewidion lyrics

Artist: Bwncath

album: Bwncath II


Ni ddewisodd i gadw'n glir
Yn ein meddylia 'da ni'n cuddio'r gwir
Ma'i mor bawdd i ni anghofio'r daith
Yn sgil ein hawydd i osgoi y gwaith
Mae hyn yn arwain ni i deimlo'n gaeth
Dyna pam fod petha'n mynd yn waeth
I ni gael gwybod pam fod hyn yn bod
Mae'n rhaid ni weld o le 'da ni wedi dod
Drwy addewidion gau
Arweiniwyd pawb i'r ffau
I lawer un fy ffrind
Gobaith sydd ar fynd
Ond os weli di drwy hyn
Fe wêl y fflam ynghyn
Yn llygaid llon pob un
Sy'n trio deallt ei hun
Ni ddewisodd i gadw draw
Pawb â'i betha', neb i estyn llaw
Cadw'r rhai sy'n dioddef ar hyd braich
Gan drio peidio meddwl am eu baich
Chwilio am gysur mewn cyfoeth lu
Gan wadu na fydd yn ein twyllo ni
Y rhai sy'n credu yn yr ystôl fawr
Yw'r rhai sy'n brifo pan mai'n syrthio i lawr
Drwy addewidion gau
Arweiniwyd pawb i'r ffau
I lawer un fy ffrind
Gobaith sydd ar fynd
Ond os weli di drwy hyn
Fe wêl y fflam ynghyn
Yn llygaid llon pob un
Sy'n dewis deallt ei hun
Os dy galon di sy'n frau
Y tywyllwch fydd yn cau
A daw pwysau, ar dy wên
Ar dy lais, ar dy ffydd
Ond os credi di yn dy hun
Ac mewn eraill sy'n gytûn
Fydd 'na galon yn dy wên
Yn dy lais, yn dy ffydd
Cana gân, cana gân
Cofia fod y wawr yn dod
Dyro wên, cwyd dy lais, cadwa'r ffydd
Cana gân, cana gân
Cofia fod y wawr yn dod
Dyro wên, cwyd dy lais, cadwa'r ffydd

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists