Kishore Kumar Hits

Caryl Parry Jones - Chwarae'N Troi'N Chwerw lyrics

Artist: Caryl Parry Jones

album: Goreuon Caryl


Mae'th fywyd di yn ddedwydd
Rwyt ti'n fodlon ar dy fyd
Ond mae 'na rywbeth bach yng nghefn dy ben
Sy'n dy boeni di o hyd
Ti'n syrthio mewn i'r fl
Heb wybod be di be
A does dim ar ôl ond rhyw syniad ffôl
Yr aiff popeth nôl i'w le
Ac mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wen yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur
Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Wrth chwara fo tân
Ac yna bob yn dipyn
Mae'r darnau'n dod ynghyd
Ti'n dod i ddeall sut mae cael
Y gorau o ddau fyd
Mae'n dod yn haws deud celwydd
Sy'n swnio fel y gwir
A ti'n gwbod yn iawn bod y gwpan yn llawn
A bod y ffordd o'th flaen yn glir
Ac mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wen yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur
Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Wrth chwara fo tân
Mae bywyd yn rhy fyr
Ac amser yn mynd yn brin
Ti'n ymladd a'th gydwybod
Ond yn fodlon ildio ar ddim
Ti'n trio peidio gwrando
Ar y geiriau yn dy ben
Ti'n cyffwrdd ar gwirionedd
Sy'n gudd tu ol i'r llen
Ti'n trio cae dy lygaid
Ar beth a sut a phwy
Ond ti'n gwbod yn glir bod pob dim yn wir
A bod y gwir yn brifo mwy
Ac mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wen yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur
Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Wrth chwara fo tân

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists