Kishore Kumar Hits

Cynefin - Dole Teifi / Lliw'r Heulwen lyrics

Artist: Cynefin

album: Dole Teifi / Lliw'r Heulwen


Blewyn glas ar lan dŵr Teifi
A dwyllodd lawer buwch i foddi.
Llawer merch a 'nhwyllodd inne
O'r union ffyrdd i'r anial lwybre.
Rown i'n rhodio rhyw foreddydd
Rhwng y glaswellt a'r mân goedydd,
Cwrddyd wnes i â hen gymydog,
Un o'r bradwyr dau-wynebog.
Cynta' peth ofynnais iddo —
Sut mae caru merch a'i chario?
"Rho di heibio'i chwmni flwyddyn,
Daw i'th garu bob yn ronyn."
Lliw'r heulwen ar y bronydd, lliw'r lili ar y bryn,
Pan elwi oddi yma, f'anwylyd cofia hyn:
Dy lun, dy law a'th lân ymddygiad, ferch,
A'th anian bert addfwynol sydd wedi tynnu'm serch.
Fe nes gyngor yr hen ffŵl hynny;
Am flwyddyn rhois i heibio'I chwmni
Es yn ôl ymhen y flwyddyn
Gan feddwl cael ei chwmni wedyn.
Y ferch ateb'sai'n hawdd ei deall —
"Ffaelaist ti â chael neb arall.
Cer' di 'mhell, na ddea'n agos.
Rwy'n priodi cyn penwythnos."
Hawdd iawn yw 'nabod sgwarnog, yn rhedeg ar ei ffrwst;
Hawdd iawn yw nabod petris, pan godant ar eu trwst;
Y dderwen fawr, ymysg y meillion mân.
Gwae fi na bai mor hawsed, i 'nabod merch fach lân.
Mae'n rhaid i'r felin falu pan gaffo ati ddŵr;
Mae'n rhaid i'r gof i weithio tra paro'r haearn yn frwd;
Mae'n rhaid i'r ddafad garu'r oen bach tra byddo'n wan;
Mae'n rhaid i minnau gymryd y sawl sydd ar fy rhan.

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists