Kishore Kumar Hits

Cynefin - Cân Y Melinydd - The Miller's Song lyrics

Artist: Cynefin

album: Cân Dyffryn Clettwr


Gyfeillion manwl mwynion
Rwy'n gofyn beth yw'ch barn
Ynghylch y fasnach farwaidd
Ar glo ac ar haearn
A hefyd ar y cotwm
O fewn i Lancashire
Mae miloedd mewn caledi
Yn poeni ers amser hir
Welwn ni, welwn ni Mari fach
Welwn ni, welwn ni Mari fach
Welwn ni Mari annwyl
Yr ateb sydd gan filoedd
Na chawn ddim amser da
Nes y terfyna'r rhyfel
Ar dir America
Y maent mor anrhygarog
Yn llidiog yno'n lladd
Y tlawd wnaent lisgo i ryfel
Er boddio'r uchel radd
Welwn ni, welwn ni Mari fach
Welwn ni, welwn ni Mari fach
Welwn ni Mari annwyl
Rhyw deddf goruwchnaturiol
Yw hyn fel dywed rhai
Os felly rhaid bodloni
Heb le i daflu'r bai
Hyn yw fy meddwl innau
Os gall fy nghalw'n ffol
Rwy'n dweud mae cariad brawdol
Sydd braidd rhy bell ar ôl

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists