Beth am gynnau tan fel y tan yn Llŷn? Beth am gynnau tan fel y tan yn Llŷn? Tan yn ein calon, a than yn ein gwaith Tan yn ein crefydd, a than dros ein hiaith. Tan, tan, tan, tan, Beth am gynnau tan fel y tan yn Llŷn. D.J., Saunders a Valentine Dyna i chwi dan gynheuwyd gan y rhain! Tan yn y gogledd yn ymestyn lawr i'r de Tan oedd yn gyffro drwy bob lle. Gwlad yn wenfflam o'r ffin i'r mor, Gobaith yn ei phrotest, a rhyddid iddi'n stor; Calonnau'n eirias i unioni'r cam A'r gwreichion yn Llŷn wedi ennyn y fflam. Ble mae tan a gynheuwyd gynt? Diffoddwyd gan y galw, a chwalwyd gan y gwynt. Ai yn ofer yr aberth, ai ofer y ffydd Y cawsai'r fflam ei hail-gynnau rhyw ddydd?