Dwi'n byw lle mae'r sbwriel yn hel A llwch yn gorffwys ar y ffenestri Dwi'n bod, rhwng pysgod a llygod Yn chwilio am rhywbeth wnaeth ddiflannu. Awn i gerdded ger yr afon rhyw dro Er ei bod hi'n anodd a gwahanol Ers o'n i a ti'n dod fan hyn i feddwi Mae cymaint di newid ♪ Falla mod i'n drysu rhwng hanes a stori Pwy a ŵyr, mae'n anodd gwneud synnwyr A'r dŵr bron a llygru'n llwyr Awn i gerdded ger yr afon rhyw dro Er ei bod hi'n anodd a gwahanol Ers o'n i a ti'n dod fan hyn i feddwi Mae cymaint di newid Brysia draw (Brysia draw a gawn ni gymryd ein hamser) Brysia draw (Brysia draw a gawn ni gymryd ein hamser) (Brysia draw a gawn ni) (Brysia draw a gawn ni) Awn i gerdded ger yr afon rhyw dro Er ei bod hi'n anodd a gwahanol Ers o'n i a ti'n dod fan hyn i feddwi Mae cymaint di newid