Y brics a'r seiliau'r mur Y gadair a'r dodrefn drud Yr inc y te, y pileru tal Yr adar bach a'r papur wal Yr angor ar y cwch Y mwg a'r blycha llwch Y grochen gawl, y gwybed man Y geiriau gwag sydd yn y gan Y byd i gyd o 'nghwmpas i Dio ddim i weld yn bodoli Ochenaid ddofn yn llawn o nawdd Ond dani'n dal i ddeud, dio ddim yn hawdd Gad mi lithro, chwynwn y cof Gad mi lithro, chwynwn y cof ♪ Ni yw'r rhwystredig rai Y genedl heb fai Ond mae pwysau'r sgrechian ar fy nghefn A pwy ydw i, i ddweud y drefn Mae'n haws ti rygnu 'mlaen Byw o ddydd i ddydd Ond mae Cymru fach yn ddibwys nawr Edrycha ar y darlun mawr Y byd i gyd o 'nghwmpas i Dio ddim i weld yn bodoli Ochenaid ddofn yn llawn o nawdd Ond dani'n dal i ddeud, dio ddim yn hawdd Gad mi lithro, chwynwn y cof Gad mi lithro, chwynwn y cof ♪ Gad mi lithro, chwynwn y cof Gad mi lithro, chwynwn y cof