O Ddoethion fe ddaethoch ar noson oer, Rhwng golau y seren a llewyrch y lloer. Gwaredwr ac Arglwydd a welwch eich tri, Hwn yw fy mhlentyn i. Daeth bugail i blygu wrth ymyl y crud, I weled ei Arglwydd yn gorwedd yn fud. Un i'w addoli yw'r baban i chi, Hwn yw fy mhlentyn i. I'm calon yn nawr, daw galar a braw, A chysgod y groes yn cyffwrdd ei law. Ei wrthod a regi mae'n siwr a wnewch chi, Hwn yw fy mhlentyn i. Rhowch lonydd i'r baban fan hyn wrtho'i hun. Mae digon o amser cyn tyfu yn ddyn, Rwyf innau'n rhag weld y poenau a'r bri. Hwn yw fy mhlentyn i.