Ei enaid yn gleisiau A'i feddwl yn friwiau Ac er mor olau yw'r awyr Mae o'n dywyll ei feddyliau Mor fregus ei gamau, ansicr ei eiriau Mor uchel yw'r lleisiau sy'n llenwi ei ben Does dim yma heno ond un aeth yn angof A'r cyfan mae hi'n adael yw eiliad o atgof Mae tyllau mawr yn ei galon A'r cariad sy'n dianc fel afon Mae pawb sy' wedi trio wedi methu Unigedd fydd ei dynged gan hynny Mor fregus ei gamau, ansicr ei eiriau Mor uchel yw'r lleisiau sy'n llenwi ei ben Does dim yma heno ond un aeth yn angof A'r cyfan mae hi'n adael yw eiliad o atgof Ac mae'r llais yng nghefn dy ben Yn dy berswadio di I ddifaru Galaru am bopeth Am bopeth na fu Mor fregus ei gamau, ansicr ei eiriau Mor uchel yw'r lleisiau sy'n llenwi ei ben Does dim yma heno ond un aeth yn angof A'r cyfan mae hi'n adael yw eiliad o atgof