Fe darodd deuddeg Hanner nos. Tawel ar y meysydd, distaw ar y ffos Hanner nos. Dim o'i le, does dim o'i le. Trem draw i'r mynydd Ar fferm Pensarn, Anadl d'wetha'r marwor yn diffodd ger y pentan, Ifan yn pendwmpian. Dim o'i le, does dim o'i le. Ger tre' fach Derry Ar ryw stryd fach gefn Gorwedda Deio--a bwled yn ei ben. Ac mae'r cwestiwn mawr yn atsain ym Mhensarn. Ac yn chwilio am yr ateb bydd ei fam. I be? Mae gwaed fy mab yn llifo'n oer. I be'? Mae'i gorff yn gelain o dan y lloer. I be, mae mam yn fam i blentyn y gad? Mor bell o dir ei dad Mor bell o dir ei dad. Fe darodd deuddeg Hanner dydd. Tawel ar y meysydd, distaw ar y ffridd Hanner dydd. Rhywbeth o'i le, rhywbeth mawr o'i le. Trem draw i'r mynydd Ar fferm Pensarn. Galarwyr yn eu du yn fudan ger y pentan. Yn syllu'n wag mae Ifan. Rhywbeth o'i le, rhywbeth mawr o'i le. Ar dir yr eglwys Tu draw i'r ffridd Mae un bedd newydd, a Deio yn y pridd. Ac mae'r cwestiwn nawr yn atsain ym Mhensarn. Ac yn chwilio am yr ateb mae ei fam. I be? Mae gwaed fy mab yn llifo'n oer. I be'? Mae'i gorff yn gelain o dan y lloer. I be, mae mam yn fam i blentyn y gad? Sy'n gorff ar dir ei dad Sy'n gorff ar dir ei dad.