Kishore Kumar Hits

Meic Stevens - Ysbryd Solva lyrics

Artist: Meic Stevens

album: Ysbryd Solva


Ar lannau llwm yr aber drist,
Gwlyb diferu yn y glaw,
Ei freuddwyd glas, y dyddiau gynt,
Mewn côf rhaid mynd yn awr.
Rwyn cofio'r estron Sais yn dod,
I falu'r dyffryn hwn, nes fod o'n marw.
Mae Ysbryd Solfa'n galw nawr,
Ei ddolydd sydd dan droed y cawr,
A'i choed mewn carchar.
Mewn drych o ddagrau, fel y gwlith,
Yn sgrech y wylan clyw ei llais,
Llongau'n hwylio, hwylio'n hwyr,
Brodorion mynd ymaith,
Dieithriaid sydd yn dwyn y cwm,
Mewn cadwyn ydi'r dyffryn hwn,
A mae o'n marw...
Mae Ysbryd Solfa'n galw nawr,
Ei ddolydd sydd dan droed y cawr,
A'i choed mewn carchar.
Offerynol
Yma nawr, diwedd y gan,
Mewn gwair mi gysga'i gyda hi,
Fe daflai'r dagrau 'nôl i'r mor,
I donnau gwyrdd y lli,
Cymdeithas wedi boddi'n llwyr,
Breuddwyd gwallgof, Duw a wyr,
Yn Nyffryn Solfa...
Mae Ysbryd Solfa'n galw nawr,
Ei ddolydd sydd dan droed y cawr,
A'i choed mewn carchar.
Tom Cartwright

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists