Kishore Kumar Hits

Meic Stevens - Daeth Neb Yn Ol lyrics

Artist: Meic Stevens

album: Ysbryd Solva


Roedd pawb ar y cei yn Aberdaugleddau
Yn oer ac yn wlyb yn y gwynt a'r glaw man
Llusgodd y llynges i ffwrdd fel cysgodion
A'r cefnfor mawr o'u blaen
CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y llongwyr yn llosgi mewn tân
Morgi o ddur yn cuddio mewn dyfnder
Ei arfau yn gas fel dant yn ei ben
Deffrodd o'i gwsg a chododd o'r gwaelod
I aros am aberth dan leuad y nen.
CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân
Yng nghanol y mor daeth taran a fflamau
Torpidos gwyllt yn rhuthro trwy'r dwr
A thrist roedd y lladdfa gyffrous mewn tywyllwch
A thrist roedd y byd mewn rhyfel a'u stwr
CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân
Rhy hwyr ger y harbwr mae'r mamau yn aros
Mae'r gwragedd yn aros heb wybod y gwir
Ond ymhell oddi yna dan môr y gorllewin
Gorweddant yn farw dan fedd gwyrdd y dwr
CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân
Amddifaid bychain ble gewch chi gysur?
Lle yn y byd gewch chi arian i fyw?
O'r llywodraeth fe gewch chi geiniogau cysurus
I dalu am eich tadau sydd nawr gyda Duw.
CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân
Tom Cartwright

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists