Kishore Kumar Hits

Meic Stevens - Mor O Gariad lyrics

Artist: Meic Stevens

album: Baledi - Dim Ond Cysgodion


Eistedd yma'n unig
'Ben fy hun
Heno 'sdim amynedd
I helbul byd
Ond mae'r nos yn ffoi
Fel mae'r byd yn troi
Fel y môr o gariad
A roddais i ti
'Sdim byd yma heno
Ond adlais cariad mawr
Ac i'm gwydrau gweigion
Ar y llawr
Ac i gwpla'r llun
Yn y botel, gwaddod gwin
Gwaddod y môr o gariad
A roddais i ti
O, hwn oedd cariad glân
Hwn oedd cariad ffôl
O roeddwn i ar dân
Ie, 'sdim ar ôl
Strydoedd oer y ddinas
Strydoedd mor llawn
Atgofion fydd amdani
Ei serch a'i dawn
Serch hynny mae'n rhaid byw
Ymuno efo hwyl y criw
Sych yw'r môr o gariad
A roddais i ti
Ie, sych yw'r môr o gariad
A roddais i ti

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists