Yng nghanol y dant y llew Ac o gwmpas y glesni daw Gwas y neidr a'i gân sydd wrth law, Pwyntiodd at lecyn da Lle cuddia planhigyn bach Ac efo pedair adenydd yn ei law, Y feillionen sydd fan draw. Wyt ti dal ar dir y byw? Rhaid 'mi dd'eud, dwi'n drwm fy nghlyw! Wyt ti dal ar dir y byw? Wyt ti dal yn credu mewn Duw? Gofalus rhwng bys a bawd, Codais fy lwcus frawd, 'I ddal o'n sownd uwch fy mhen i'r nen, Ac o bŵer y ddeilen brin, Llawennydd a lenwa 'mron, Ac efo pedair adennydd yn ei law, Y feillionen sydd fan draw. Wyt ti dal ar dir y byw? Rhaid 'mi dd'eud, dwi'n drwm fy nghlyw! Wyt ti dal ar dir y byw? Wyt ti dal yn credu mewn Duw? Meillionen, tyrd â lwc i mi! Meillionen, tyrd â lwc i mi! Wyt ti dal ar dir y byw? Rhaid 'mi dd'eud, dwi'n drwm fy nghlyw! Wyt ti dal ar dir y byw? Wyt ti dal yn credu mewn Duw? Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud! Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud! Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud! Meillionen, tyrd â lwc i mi - y ddeilen hud! Meillionen, tyrd â lwc i mi!