Kishore Kumar Hits

Anweledig - 6.5.99 lyrics

Artist: Anweledig

album: Gweld Y Llun


Beth yw'r ots gennyf fi am Gymru?
Damwain a hap, neu anffawd yw fy mod yn rhan ohoni.
A pwy 'da ni i fynnu gobeithion newydd...
Yn ddim mwy na babi mewn bedydd
Feddyliais i erioed y byddwn i'n eiddo i genedl a llwyth
Mwya apathetic, di-asgwrn cefn, ddisymwth.
Beth yw'r ots os mai fin nos fan hyn lladdwyd Llywelyn?
Dydw i ddim yn cofio hyn.
A doeddwn i ddim o gwmpas pan rheibwyd Tryweryn,
A hwyl diniwad oed 'Brad y llyfra' gleision',
Yn ddim byd mwy na strôc o genius gan y Saeson.
Prin arwisgwyd bonheddwr Charlie yn '69
Daeth miloedd i 'dre i godi llaw,
Aeth y benwan i Gilmer yn y niwl a'r baw!
Saunders, DJ, Valentaine:
All this Welsh shit is a waste of time.
All this Welsh shit is a waste of time.
Meddyliwch am Hassan yn nociau Gaerdydd,
A gafodd o wahoddiad i dathliadau'r Urdd?
Mae'n hen bryd symud yn ein blaen.
A dyma ddeffro rhyw fora a gweld dyn mud a dall
A meddyliais am eliad a ydwi'n gall i ddi-ystyrio miliynau o eneidiau gwych
A rhanodd, cyfoethogodd, dysgodd i ni i beidio a phlygu
A derbyn yr hyn sydd yn iawn i'r lleiafrif!
Beth nawr yw'r ddadl ynglŷn â'r iaith?
Ai brad yw mynd a'r gân a'r gair o amgylch y byd, ac o stryd i stryd?
"Un genedl, dwy iaith - one nation, two languages".
Yng nghanol Dafydd Êl, Rod Richards a'r pwdl
A'r tipyn Cymro yn yr advert 'pot noodle'
A oes gynna' ni ddiddordab o gwbl?
Fel 'udodd Y Tystion: mae Kosovo dal mewn lludw.
A dyma di'r pwynt ar ddiwedd y dydd:
Yw ein bod fel eneidia yn gwbl rhydd i rannu, cyfoethogi, a dysgu ein gilydd
I beidio a phlygu i'r hyn sydd yn iawn i'r lleiafrif.
(Plygu i'r hyn sydd yn iawn i'r lleiafrif.)
"I have decided on the name
National Assembly for Wales,
To stress that it will be for everyone in Wales,
English and Welsh speakers...
North, south, east and west...
North, south, east and west...
Everyone in Wales... everyone in Wales."
A rŵan ble mae Ron 'o Fachen' Davies?
Wedi'i erlid yn rheibus gan gymdeithas scitzophrenig, anwybodus
Am fod yn ddyn o gig a gwaed.
Meddylich chi am funud: pe bai Glyndŵr yn hoyw?
Na, fydda' hynny ddim yn 'iawn' o gwbl!
Yn 1536 meddianwyd y famwlad mewn gloddest o hunan bwysigrwydd a brad.
Dim ond llyfu tîn y cwîn...
Efallai'n debyg i '99 pan estynwyd llaw i'r teulu breintiedig
Nad oedd yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd i'n Cynulliad ni, y cachgwn gostyngiedig.
A be am wahoddiad D.I., R.S. a Gwynfor Evans
A'u hysbryd gonest, gobeithiol, di-dor?
Aeth Dafydd Ap Gwilym ar sesh mewn tafarn i chwilio am hogan;
Ma'r meddylfryd yn bell o fod yn ysfa fodern.
A oedd o'n deffro bob bora yn 'diolch i Dduw bod o'n Gymraeg"?
Fel caethweision yr Arglwydd Penrhyn ynglhwm wrth y graig...
A dyma wnaeth nhw, deffro rhyw fora a gweld dyn mud a dall
A meddwl am eiliad, a ydyn nhw'n gall i ddi-ystyru miliyna' o eneidia gwych
A ranodd, cyfoethogodd, dysgodd i ni i beidio a phlygu
A derbyn yr hyn sydd yn iawn i'r lleiafrif...
Ma'n hen bryd deffro.

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists