Bore da, w'ti sho panad? Ti'n brydferth yn dy gwsg, ond ti'm yn atab. Ma'r adar mân yn dechrau canu Yn brydferth fel dy gwsg yn mhlu fy ngwely. Daw'r haul trwy y ffenast a dy ddeffro di, Edrychaist i fyw fy llygaid, ti'n rhoi dy dillad ymlaen, Ti'n cau y drws; ma na ddrwg yn y caws A finna'n mynnu gwbod beth sy'n dy boeni di; Wir i ti tydwi'm efo neb arall neu chdi Sy' licio chwara dy gêm! O, ti'n licio chwara dy gêm! Ma'r wawr di dod yn gynt na'r disgwl, Ma'r llenni dal ar gau mewn byd mor drwsgl. O's na bwynt i ffonio fyny? Fedra i wir ddim meddwl yn glir a phenderfynu. Daw'r haul trwy y ffenast a dy ddeffro di, Edrychaist i fyw fy llygad, ti'n rhoi dy dillad ymlaen, Ti'n cau y drws; ma na ddrwg yn y caws A finna'n mynnu gwybod beth sy'n dy boeni di; Wir i ti tydwi'm efo neb arall neu chdi Sy' licio chwara dy gêm! O, ti'n licio chwara dy gêm! Dwi wrth y bar yn dechra blasu, Ma awyr iach y gem yn ca'l ei lygru. Ia, chdi oedd yn gefn i mi; Ia, yr asgwrn yn fy nghefn, ond ti di bachu hi. Daw'r haul trwy y ffenast a dy ddeffro di, Edrychaist i fyw fy llygad, ti'n rhoi dy dillad ymlaen, Ti'n cau y drws; ma na ddrwg yn y caws A finna'n mynnu gwybod beth sy'n dy boeni di; Wir i ti tydwi'm efo neb arall neu chdi: Ti'n licio chwara dy gêm! O, ti'n licio chwara dy gêm!