Colli iaith a cholli urddas, Colli awen, colli barddas; Colli coron aur cymdeithas Ac yn eu lle cael bratiaith fas. Colli'r hen alawon persain, Colli tannau'r delyn gywrain; Colli'r corau'n diasbedain Ac yn eu lle cael clebar brain. Colli crefydd, colli enaid, Colli ffydd yr hen wroniaid; Colli popeth glân a thelaid Ac yn eu lle cael baw a llaid. Colli tir a cholli tyddyn, Colli Elan a Thryweryn; Colli Claerwen a Llanwddyn A'r wlad i gyd dan ddŵr llyn. Cael yn ôl o borth marwolaeth Gân a ffydd a bri yr heniaith; Cael yn ôl yr hen dreftadaeth A Chymru'n cychwyn ar ei hymdaith.