Ma'r hogyn pren yn chwedeg-pedwar Ac wedi dal dutch elm disease Ma Martha Dew, di mynd yn dewach ac yn fyw A deud y gwir, mae'i di mynd yn obese Aeth Dymbo'r clown i cartre henoed Lle mae o'n cysgu nos a dydd Ond ambell waith ma'n gwneud ei driciau fel o'r blaen Ac yn breuddwydio am fod yn rhydd Mae ambell grac bach yn y tebot Ac yntau'n dathlu ddeugain oed Ond ma 'na rhai a fasa'n honni Bod y crac di bod yno erioed Mae lleucu llwyd di cico'r bwced Ac Blaenau'n dal o dan y graig Ma Bil y Barnwr yn y fynwent erbyn hyn Ond mae'r arwyddion i gyd yn Gymraeg O tyrd i ffwrd i weld y blodau Sy'n tyfu lawr wrth y draffordd fawr A chlwyed ar lais y leisiau'r plant odd yn y cwm A gweld y nwy yn y nen yn dod lawr Mae ambell grac bach yn y tebot Ac yntau'n dathlu ddeugain oed Ond ma 'na rhai a fasa'n honni Bod y crac di bod yno erioed Mae ambell grac bach yn y tebot Ac yntau'n dathlu ddeugain oed Ond ma 'na rhai a fasa'n honni Bod y crac di bod yno erioed