Kishore Kumar Hits

Tebot Piws - Crac lyrics

Artist: Tebot Piws

album: Tebot Piws


Ma'r hogyn pren yn chwedeg-pedwar
Ac wedi dal dutch elm disease
Ma Martha Dew, di mynd yn dewach ac yn fyw
A deud y gwir, mae'i di mynd yn obese
Aeth Dymbo'r clown i cartre henoed
Lle mae o'n cysgu nos a dydd
Ond ambell waith ma'n gwneud ei driciau fel o'r blaen
Ac yn breuddwydio am fod yn rhydd
Mae ambell grac bach yn y tebot
Ac yntau'n dathlu ddeugain oed
Ond ma 'na rhai a fasa'n honni
Bod y crac di bod yno erioed
Mae lleucu llwyd di cico'r bwced
Ac Blaenau'n dal o dan y graig
Ma Bil y Barnwr yn y fynwent erbyn hyn
Ond mae'r arwyddion i gyd yn Gymraeg
O tyrd i ffwrd i weld y blodau
Sy'n tyfu lawr wrth y draffordd fawr
A chlwyed ar lais y leisiau'r plant odd yn y cwm
A gweld y nwy yn y nen yn dod lawr
Mae ambell grac bach yn y tebot
Ac yntau'n dathlu ddeugain oed
Ond ma 'na rhai a fasa'n honni
Bod y crac di bod yno erioed
Mae ambell grac bach yn y tebot
Ac yntau'n dathlu ddeugain oed
Ond ma 'na rhai a fasa'n honni
Bod y crac di bod yno erioed

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists