Pentra bach ychal, mae o'n uwch na Llan Lle ma dŵr y mynydd yn canu i'r llyn Ac yn yr ha' maen nhw'n cau y dam Y mama' yn padlo a'r plant yn nofio Pentra bach distaw, sdim digon o sŵn Ma'r nytars i gyd yn neidio Llyn Cŵn Ac uwch ar y creigia ma'r dringwyr i gyd Hefo'u rhaffau glas a'u caribinas Ond be does na ddim ydi tafarn yn fan hyn Sa na dafarn yn fan hyn sa fo'n booming Felly be da ni angan ydi tafarn yn Nolrhedyn La la la la Fysa'r lle ma'n gwneud pryda, 'sa'r lle ma'n g'neud tân Hen foi yn y gornal yn canu rhyw gân A digon o le i'r band roi eu stwff A chwara miwsig i gyfeiliant y ffisig Sa'r lle ma'n llawn merchad, ond dim rai rhy hen Yn gwenu a mwydro, rhoi gwen ar pob gên A wedi 'ti fachu ti'n gwrthod lock in Ma'r lle ma'n rhy boeth - awn ni i nofio yn noeth Ond be does na ddim ydi tafarn yn fan hyn Sa na dafarn yn fan hyn sa fo'n booming Felly be da ni angan ydi tafarn yn Nolrhedyn La la la la Ond be does na ddim ydi tafarn yn fan hyn Sa na dafarn yn fan hyn sa fo'n booming Felly be da ni angan Felly be da ni angan Felly be da ni angan ydi tafarn yn Nolrhedyn La la la la