Kishore Kumar Hits

Mim Twm Llai - Ellis Humphrey Evans lyrics

Artist: Mim Twm Llai

album: Goreuon


Yn un naw un saith yn Nhrawsfynydd Sir Feirionnydd
Roedd Ellis Humphrey Evans yn bugeilio ar y mynydd
Roedd o'n dipyn o fardd, caru merch hardd o'r fro
A swn'r hen afon Prysor o'dd yr awen iddo fo
Ond ar fore oer o Chwefror daeth dyn o'r orfodaeth at y ffarm
Ac yn erbyn ei ewyllys a parch at hen bob bach
I ryfel oedd rhaid mynd bob un cam
Felly 'ffwrdd a fo i Lerpwl i ymuno a'r battalion
Hyfforddi fo i ymladd ac mewn sut i ddal gwn
Ac oedd o allan o'i gynefin; allan o'i fro
Ond roedd cadw pen ar bapur yn rhoi rhyddid iddo fo
A cas oedd y swyddogion, ar sarjant yn gweddi yn ei glyst
Am farddoni'n iaith y nefoedd
Er yr holl anhegwch, ei awen oedd yn gryf a Duw ei dyst
Felly penna fyny hogia dachi'n barod ac yn iach
I hwylio i wlad arall a chwffio dros eich gwlad
Mae'r gynna yn eich dwylo ac mae'r gelyn ochr draw
Peidiwch a chynhyrfu, Gewchi fedal yn eich llaw
Dydd olaf o Orffennaf ac mae'r hogiau yn y ffosydd
Yn galw emosiynnau a hiraeth yn y pridd
Mae'r brwydyr ar fi'n cychwyn, brwydyr mwya'r byd
Be ddaw o hyn? gofynwyd; rhy hwyr mae rhaid ni fynd!
A Mewn a nhw i'r hunllef
O ffrwydriadau, mwg, a gunnau gwyllt
Lle lladdwyd Ellis Evans
Kap yn ei fol, mae'n colli gwaed yn sydyn, neb yn disgwl, ble mae'r cymorth? Ac mae pawb yn symyd ymlaen
Ac ynno ar ei liniau yn ei ddyrnau dim ond pridd
Meddyliodd am ei gartef yn Nhrawsfynydd Sir Feirionydd
Mi glywodd ddim yr arfau, na swn y tanciau trwm
Dim ond swn yr afon Prysor yn Canu yn y Cwm

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists