Wrth gwrs fe gei di gerdded ar hyd fy llwybr, Cei fynd lle y mynni ar fy nhir. Wrth gwrs fe gei di gasglu mlodau harddaf, Dim ond i ti addo dweud y gwir. Wrth gwrs fe gei di gerdded i fy mwthyn, Cei gynna’ y tan a hwylio’r te. Wrth gwrs fe gei di groeso ar fy aelwyd, Dim ond i ti ebsonio be’ ‘di be. Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd Fe’i gwelwyd yno’n boddi gan geidwad y goleudy Fe’i clywodd yn gweiddi ‘A wnei di f’achub i?’ Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio Ceidwad y goleudy ydwyf i. Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd Fe’i gwelwyd yno’n boddi gan geidwad y goleudy Fe’i clywodd yn gweiddi ‘A wnei di f’achub i?’ Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio Ceidwad y goleudy ydwyf i. Wrth gwrs gei di weddi wrth fy allor Rhoddaf glustiau fy Nuw yn eiddo i ti Wrth gwrs cei fedyddio dy blant yn nwr fy ffynon Dim ond i ti ddysgu ngharu i Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd Fe’i gwelwyd yno’n boddi gan geidwad y goleudy Fe’i clywodd yn gweiddi ‘A wnei di f’achub i?’ Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio Ceidwad y goleudy ydwyf i. Ceidwad y goleudy ydwyf i.