Rhwng cael gwair a chynaeafu'r ud. Mae heddwch bach i dractor am ryw hyd. Caiff drip i'r ffair neu sw, Hwre a halibalw. A mynd i'r sioe i gwrdd a'i ffrindiau gyd, Haf bach Tecwyn yw mynd i lan y mor, Gwylanod uwch ei fon a'n tynnu'n gor. Llyfu hufen ia, a hwnnw'n blasu'n dda. O hwyl a haul a heli ar lan y mor. Hir yw disgwyl nes fydd gwyliau'n dod Hir pob un sy'n aros, be'n y byd sy'n bod? Ond yna awyr las Anghofio'r tywydd cas. Chwerthin a mwynhau a fydd y nod. Haf bach Tecwyn yw mynd i lan y mor Gwylanod uwch ei fon a'n tynnu'n gor. Llyfu hufen ia, a hwnnw'n blasu'n dda. O hwyl a haul a heli ar lan y mor. Mae'r tractor coch yn hoffi trip tren bach. Picnic yn y grug a bwyd mewn sach, Ond o'r tripiau ar y gweill, Mae un yn well na'r lleill. Chwarae yn y dwr a'r awyr iach. Haf bach Tecwyn yw mynd i lan y mor Gwylanod uwch ei fon a'n tynnu'n gor. Llyfu hufen ia, a hwnnw'n blasu'n dda. O hwyl a haul a heli ar lan y mor. Llyfu hufen ia, a hwnnw'n blasu'n dda. O hwyl a haul a heli ar lan y mor.