Pump oed ar drothwy'r 'Sacred Heart' Ofn gollwng llaw fy mam 'Tyrd i ddeud Helo wrth y Chwiorydd Trugarog, Dyro wên i'r Tad O'Brian,' Arogldarthau ac atsain gweddi – petha' gofia i am weddill f'oes, Fflamau canhwyllau'n dawnsio mewn rhes Dan Iesu Grist yn ei boen ar y groes. Ond erbyn hyn dw i wedi dwad yn bellach I lawr yr hen lôn droellog, A'r unig beth sy dal yn sanctaidd i mi Ydi'r cariad distaw rhyngddom ni. Ar y bore sul cyntaf o Chwefror eleni Roedd 'na farrug dros y caeau i gyd Mi wnes i wisgo 'ngwas i a'i roid yng nghefn y car Ac i lawr i Fangor â ni I redeg a chwerthin a chicio'i bêl Ar gae swings Tan y Bryn A mi 'drychais i fyny ar yr awyr las Gan deimlo mor ddiolchgar am hyn: Dw i wedi dod yn ddigon pell i wybod Toes 'na ddim byd yn para'n hir: Tad a mab neu ddau gariad law yn llaw Mae pawb angen cyffwrdd rhywun yn y pen draw. Ar lan yr afon dywyll, dw i'n ei dal hi'n dynn Dan y coed a'r sêr di-ri, Drwy ei dillad tena' mae ei chalon yn drymio A'i bronnau yn f'erbyn i, Mae 'na dân yn rhedeg fel trên heb ddreifar Drwy'r gwythiennau hyn A mae f'enaid yn deffro a hedfan i'r nos Fel alarch yn codi o'r llyn... Mae rhywbeth gwych am ddwad i'n rhan ni, Mae gwyrth ar fin digwydd – dw i'n llifo ati hi fel afon i'r môr, A mae 'na ddawns yn rhywle a sŵn gitâr... Dw i isio cerdded efo hi, Isio dawnsio efo hi, Isio nofio efo hi, Isio rhedeg efo hi.