Kishore Kumar Hits

Steve Eaves - Deng Mil Folt Trydan lyrics

Artist: Steve Eaves

album: Ffoaduriaid


Mae na rywun yn rhywla
Yn disgwyl ei chylcha
Yn disgwyl amdana fi
Fi di'r unig un iddi hi
Ma hi methu cyd-dynnu
Hefo pobol erill
Maen nhw'n meddwl am eu harian
A'r llog yn y bancia
Maen nhw'n troi yn eu hunfan
Methu dallt ein strenshian ni
Dan ni'n llechu yn y cysgod
Terfysgwyr cariad
Ma hi'n cofio
Fy mysedd yn crwydro
Ar hyd ei choesa
Ar hyd ei hasgwrn cefn

Ma hi'n gorwedd yn y t'wyllwch
Ma bron yn orffwyll
Ma'n llosgi fel canwyll
Mai'n crynu fel deilen fach
A'i chwant fel peilon
Deg mil folt trydan
Ma gynno ni rwbath
Gwych ofnadwy
Rhywbeth anghredadwy
Rhywbeth annealladwy, ie
Dwi fel Ioan Fedyddiwr
A rhan ŵr o wyrthia
Ma hi'n cofio
Fy mysedd yn crwydro
Ar hyd ei choesa
Ar hyd ei hasgwrn cefn

Ma hi'n cofio
Fy mysedd yn crwydro
Ar hyd ei choesa
Ar hyd ei hasgwrn cefn

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists