Kishore Kumar Hits

Steve Eaves - Gad Iddi Fynd lyrics

Artist: Steve Eaves

album: Moelyci


'Taswn i'n gwybod fod o'n wir
'Faswn i ddim am fyw yn hir
Am fod cymaint o hen salwch a thorcalon
'Dw 'i' di blino' meddai hi
Roedd hi'n hanner wedi tri
'Roedd dim diben siarad mwy nac esbonio
Gad iddi fynd, gad iddi fynd
Gad lonydd iddi, gad iddi fynd
Fedri di ddim ei chadw hi, gad iddi fynd
O mi awn i o 'ma heddiw 'tae 'na gyfle
Mae'n nhw'n llifo mor rhwydd
O ben-blwydd i ben-blwydd
Dyddiau gefais i i garu pobl
Ond pan mae'n dechrau mynd yn hwyr
Ac mae'r gitar yng nghefn y car
Dw 'i'n dyheu am weld fy mhlant i gyd cyn cysgu
Gad iddi fynd, gad iddi fynd
Gad lonydd iddi, gad iddi fynd
Fedri di ddim ei chadw hi, gad iddi fynd
O mi awn i'n ol i'r ffynnon, 'tae 'na lwybr
Gad iddi fynd, gad iddi fynd
Gad lonydd iddi, gad iddi fynd
Fedri di ddim ei chadw hi, gad iddi fynd
O mi awn i o 'ma heddiw 'tae 'na gyfle

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists