Caneuon (Songs) Ma' fe fel y ffrind, sydd wedi mynd Cyfaill coll yn rhywle pell Ôl blwyddyn arall tu ôl dy lygaid Dal i ddisgwyl am rywbeth i ddychwelyd Bach fel allwedd dan y garreg, Sy'n aros o flaen y drws. Esgus arall i ni gwrdd, a dianc i ffwrdd. O'n i'n gwrando ar Gegin Nos, Pan nath e i gyd ddechre dod nôl Hen alawon coll, Mae'n nhw wastad yna os ti angen nhw Mae'n ddechrau digwydd, un diwrnod ar y tro. Dyma'r llais clywais sawl gwaith. Ambell waith pan ti ar goll, A does neb arall, yn gallu deall. Mewn breuddwyd arall Lle fi'n clywed ti'n canu unwaith to Esgus arall i ni gwrdd a dianc i ffwrdd. O'n i'n gwrando ar Gegin Nos, Pan nath e i gyd ddechre dod nôl Hen alawon coll, Mae'n nhw wastad yna os ti angen nhw