Dwi'n drysu, dan swyn rhyw gysgod oer Sy'n flanced rownd fy myd di-liw Ond dwi'n crynu, yn dawel llyncu poer Cyn agor, i ddatgelu'r briw Ga i esbonio? Nei di wrando? Ga i esbonio? Nei di wrando? Y geiria', wedi'w hen baratoi Yn llifo allan bob yn un A dwi'n plygu, yn barod i ymroi I ddangos bob un rhan o'n hun Ga i esbonio? Nei di wrando? Ga i esbonio? Nei di wrando? Dyma'r gwir, ar ddiwedd y dydd Dwi'n sownd yn y canol Rhwng dwy lan, ond heb ddeall pam Yn perthyn i ddim Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd) Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y gwir) Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd) Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y byd) (Beth bynnag) Oddi wrth y gwir (Oddi wrth y byd) Rhaid ti addo, paid cael dy lusgo mewn Paid a gadael i mi fod yn faich Os dwi'n methu, yn baglu ar y daith Gei di ddal ar ddoe, caria 'mlaen for sioe Dyna'r gwir, ar ddiwedd y dydd Dwi'n sownd yn y canol Rhwng dwy lan, ond heb ddeall pam Yn perthyn i ddim Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd) Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y byd) Ga i esbonio? (Be bynnag sydd, be bynnag fydd) Nei di wrando? ('Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y byd) (Beth bynnag) Oddi wrth y byd Oddi wrth y byd (Be bynnag sydd, be bynnag fydd) ('Sdim rhaid ti guddio oddi wrth y byd) (Be bynnag sydd, be bynnag fydd) ('Sdim rhaid ti guddio oddi wrth y byd) Be bynnag sydd, be bynnag fydd 'Sdim rhaid ti guddio oddi wrth y byd Be bynnag sydd, be bynnag fydd 'Sdim rhaid mi guddio oddi wrth y gwir