Kishore Kumar Hits

Sŵnami - Trwmgwsg lyrics

Artist: Sŵnami

album: Sŵnami


Dibynnu ar rai
Er mwyn rhannu y bai
Gwasgaru'r baich
Tra'n chwilio am ryw esgus rhad
Ti'n derbyn y drefn
Heb amddiffyn dy gefn
Ath olwg di yn sownd i'r ddaear dan dy draed
Deffra nawr o dy freuddwyd
O dy drwmgwsg deffra
Deffra nawr o'r freuddwyd fawr
Mae gen ti'r dewis yn dy ddwylo
Ond ti'm yn gweld achos ma'r byd yn brifo
Ti mond yn hapus yn dy unfan
Heb or adennydd ond yn gwrthod hedfan
Sefyll a syllu tra bo dyddiau'n cyfri lawr
Yn gwylio dy fyd
Yn dy basho pob dydd
Yn aros tan bod pob un tamaid yn ei le
Deffra nawr o dy freuddwyd
O dy drwmgwsg deffra
Deffra nawr o'r hunllef fawr
Mae gen ti'r dewis yn dy ddwylo
Ond ti'm yn gweld achos ma'r byd yn brifo
Ti mond yn hapus yn dy unfan
Heb or adennydd ond yn gwrthod hedfan
Sefyll a syllu tra bo dyddiau'n cyfri lawr
Oedd gen ti'r dewis yn dy ddwylo
Ond ti'm yn rhydd am bo ti'n gwrthod ildio
Yn berffaith hapus yn dy unfan
Yn sylweddoli bo ti byth am hedfan
Oedd gen ti'r dewis yn dy ddwylo
Ond ti'm yn rhydd am bo ti'n gwrthod ildio
Sefyll a syllu tra bo'r dyddiau'n cyfri lawr.

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists