Kishore Kumar Hits

Gwilym Bowen Rhys - Gwen Lliw'r Lili lyrics

Artist: Gwilym Bowen Rhys

album: O Groth y Ddaear


Dydd da fo i Wen lliw'r lili,
Mi'th welais heddiw'n wisgi
Yr orau rwy'n ei charu
O ferched yr holl fyd
Pa le mae'r addewidion
A'r cariad gynt fu rhyngom?
Mynega im, liw'r hinon,
Fy seren teg ei phryd
Mae'r gog yn bêr leferydd
A'i miwsig yn y maesydd
A gwenu y mae'r gweunydd
Dan dywydd hirddydd haf
A'r gerdd yng nghaerau gwyrddion
A'r tir gan fwyeilch tirion
Llawenydd, pynciau llawnion,
Y dôn hyfrydlon braf
Felly loyw Wen lliw'r lili
Tyrd ataf eto i garu
Cyn i 'nghalon dirion dorri
Yn deilchion yn dy law,
Mae'th swnol lais yn treiddio
Mor ddedwydd i 'mreuddwydion
O rho i mi, liw'r hinon,
Dy gariad di-ben-draw.

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists