Kishore Kumar Hits

Gwilym Bowen Rhys - Bachgen Ifanc Ydwyf lyrics

Artist: Gwilym Bowen Rhys

album: O Groth y Ddaear


Wel bachgen ifanc ydwyf bron un ar hugain oed
Os ydwi'n llac fy ngafael dwi'n 'steady' ar fy nhroed
Dwi fel yr hen bysgotwr yn rhodio glannau'r Llyn
Yn gweled pysgod lawer ond yn methu dal yr un
Wel bachgen ifanc ydwyf yn sychedu am rhyw serch
Ac am flasus sudd y barlys ac am wefys melys merch
Ond er am holl bleserau tymor byr tu ôl y bar
Mae f'enaid dal yn chwilio am galon allaf gar
Wel bachgen ifanc ydwyf sydd yn ddiwyd ar y ddôl
Yn bugeilio fy nheimladau a fy nymuniadau ffôl
Dwi'n treulio hyd fy nyddiau yn hadu ar y rhiw
Ond planu hadyn cariad ni fedraf yn fy myw

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists