Trio bob dim, ond dal, mae'r ateb 'r'un fath Trio bod yn glyfar, trio bod yn graff Ond yn amlwg fydd na'm plesio rhai Yn amlwg fydd na'm plesio chditha chwaith Ti 'di dod i benderfyniad ers tro Ti'n bengaled, ti'n ddi-droi'n-ôl A fedrai'm dal dy sylw di I ddangos pa mor ffôl yw hyn i gyd Di cael hen ddigon O gael yr un dadleuon dro 'r ôl tro Ti'n ddall i'r gwalla'n dy feddylia di Be sy'n gelwydd, be sy'n wir? Wyt ti 'di syrffedu ar fod yn iawn o hyd? Gad i fi dy helpu di Trio bob dim, ond dal, mae'r ateb 'r'un fath 'Di chwara'n fudur, 'di chwara hi'n saff Ond yn amlwg, fydd na'm plesio rhai Dwi'n pregethu i'r troëdig fwy neu lai Ti dal i ganu o'r un llyfr emynau Byth ddim byd newydd, mond yr hen ffefrynau Tra ma'r byd o d'amgylch di Yn esblygu mwy a mwy pob dydd Di cael hen ddigon O gael yr un dadleuon dro 'r ôl tro Ti'n ddall i'r gwalla'n dy feddylia di Be sy'n gelwydd, be sy'n wir? Wyt ti 'di syrffedu ar fod yn iawn o hyd? Gad i fi dy helpu di Mi ddwedodd hi "cariad, yr angerdd yw'r allwedd i'r galon dan glo" Ond roedd hi'sio wbath haws, eisiau calon agored rhyw gariad dros dro Mi ddwedodd hi "cariad, yr angerdd yw'r allwedd i'r galon dan glo" Ond eto pan rois i fy angerdd, chefais i'm byd yn ôl Ches i'm byd yn ôl