Kishore Kumar Hits

I Fight Lions - Y Gasgen Wag lyrics

Artist: I Fight Lions

album: Be Sy'n Wir?


Dwi 'di trio cadw 'mhen yn glir
Ond ma'r dŵr o hyd yn troi yn ôl yn win
Ma 'na ddiafol ar f'ysgwydd chwith, a diafol ar y dde
Yn deutha fi, "paid â phoeni, does 'na'm byd o'i le"
Ond does 'na'm ateb call
Ar waelod casgen wag
Ac wrth i'r cwrw lifo, mae'r holl feddyliau'n cilio
A dwi'n anghofio geiria'r gân
Dwi 'di trio dod o hyd i'r gwir
Treulio dyddiau yn diddymu'r darlun ffug
Ond wrth ddad-wneud y clymau, ddaw dim ond cymlethdodau
Trwy'r gwirodydd, tydw i methu gweld yn glir
Does na'm ateb call
Ar waelod casgen wag
Ac wrth i'r cwrw lifo, mae'r holl feddyliau'n cilio
A dwi'n anghofio geiria'r gân
Tydi nghalon i'm yn lân
Ond ynddi, ti'n llwyddo'i gynnau tân
Dwi'm yn siŵr os mai'r gwin 'ta'r wên sy'n neu fy nghoesa'n wan
Ond dwi'n gwybod bod un yn well na'r llall
Does na'm ateb call
Ar waelod casgen wag
Mae'r cwrw wedi cilio, a'r cariad 'di dihuno
I f'atgoffa o eiria'r gân

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists