Kishore Kumar Hits

I Fight Lions - Llwch ar yr Aelwyd lyrics

Artist: I Fight Lions

album: Be Sy'n Wir?


Y llwch ar yr aelwyd
Yn gorchuddio y lluniau di-liw
Daliwyd profiadau, eiliadau a fu
Lle bu chwerthin â chyfeillion triw
Mae'r gwir yn treiddio i'r cof
Nid yw'r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl
O ma 'na rywbeth o'i le
Y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres
'Di'r lle ma ddim 'r'un fath
Unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag
'Di'r lle ma ddim 'r'un fath
Hebdda chdi
Llyfrau nodiadau
Llawn caneuon heb eu cwblhau
Y llenni ar gau, ond mae mymryn o haul
Yn taflu golau 'r y llwch yn yr aer
Mae'r gwir yn treiddio i'r cof
Yn d'absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl
O ma 'na rywbeth o'i le
Y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres
'Di'r lle ma ddim 'r'un fath
Unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag
'Di'r lle ma ddim 'r'un fath
Hebdda chdi

Mae'r gwir yn treiddio'n ddyfn i'r cof
Nid yw'r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl
Mae'r gwir yn treiddio'n ddyfn i'r cof
Yn d'absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl

Поcмотреть все песни артиста

Other albums by the artist

Similar artists