Dio'm yn hogyn hud Dio'm yn unrhyw fath o ddewin Bensodiasepîn sy'n troi dy ddwr i mewn i wîn Dim ei dricia' Dio'm yn slic, na Fyddi di dal efo cleisia' Ar dy linia' Ond fyddi di'm yn cofio dim Fel llew ar ôl gazelle Mae o'n syllu yn frwdfrydig Ti'n gyfareddol ac yn ddel Mae o'n chwantus ac yn lwglyd Yn trio'i ora' Gyda'i eiria' I dy swyno di i'r laddfa Ti'n amlwg heb ddiddordeb Ond dio'm yn poeni dim 'Dio'm yn Gasanova, na Chwerw yw ei chwarae Fel ti'n llithro fewn i'r coma Dio'm yn Gasanova Nei di ddeffro efo cleisiau A creithiau a haint ne ddau O gwylia di dy hun Ma'r sglyfath 'ma'n anelu I gael chdi ar ben dy hun I gael chdi yn ei wely Ac os ti'n anghytuno Ganddo ddulliau annymunol I gael ffordd ei hun A cariad fyddi di'm yn cofio dim