Ma'r geiria'n llifo oddi ar dy dafod di heb saib na chamgymeriad Tra dwi'n baglu dros frawddegau Heb, heb syniad be, be dwi, dwi 'fod i ddeud nesa Oh, oh oh oh oh – Be 'di'r gyfrinach, be wti'n guddiad? Oh, oh oh oh oh – Pawb dan gyfaredd, pob brawddeg yn ddengar Wti ar dân Ti'n llyfn ac yn ffraeth, 'di meistrioli dy iaith Wti ar dân Ti'n swyno'r ystafell, dy dalent ar waith Wti ar dân Pob awgrym yn bwyllog, dwi'n synnu ar yr effaith Caiff araith byrfyfyr bach berffaith Dy dalent di ar waith Ti'n cynhyrfu'n lan wrth roi dy fysedd Yn y tan heb bryderu dim am berygl y fflam Ti'n chwilfrydig, pob gair yn wefredig, pob cip yn bryfoclyd Oh, oh oh oh oh – Be 'di'r gyfrinach, be wti'n guddiad? Oh, oh oh oh oh – Pawb dan gyfaredd, pob brawddeg yn ddengar Ma clwydda pur yn swnio'n wir Drwy dy wefusa di Ti'n slic ac yn cwic ac yn dangos dy dricia Difaru dim byd, diferu carisma Ti'n grefftus a'n gyfrwys yn dewis dy eiria Dy gwmni yn aur a dy dafod yn arian