Mi glywaf dyner lais, Yn galw arnaf fi, I ddod a golchi 'meiau gyd, Yn afon Calfari. Arglwydd, dyma fi Ar dy alwad di, Golch fi'n burlan yn y gwaed A gaed ar Galfari. Yr Iesu sy'n fy ngwadd, I dderbyn gyda'i saint, Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd, A phob rhyw nefol fraint. Arglwydd, dyma fi Ar dy alwad di, Golch fi'n burlan yn y gwaed A gaed ar Galfari. Gogoniant byth am drefn, Y cymod a'r glanhad; Derbyniaf Iesu fel yr wyf, A chanaf am y gwaed. Arglwydd, dyma fi Ar dy alwad di, Golch fi'n burlan yn y gwaed A gaed ar Galfari. Golch fi'n burlan yn y gwaed A gaed ar Galfari. Amen, Amen, Amen, Amen